Mae pedwar sgïwr wedi marw, ac un arall ar goll, wedi llithriad eira (avalanche) yn ne’r Alpau, yn ôl yr awdurdodau yn Ffrainc.
Fe gafodd sgïwr arall ei anafu yn dilyn yr un digwyddiad yn ardal Entraunes, ger y ffin â’r Eidal.
Yn ystod ei ymweliad â’r ddinas ddeheuol, Nice, fe ddywedodd Prif Weinidog Ffrainc, Edouard Phillips, wrth y Wasg fod y gwaith achub yn parhau.
Yn ôl y Wasg leol, mae’n debyg bod y sgiwyr, gan gynnwys tywysydd, wedi mynd ar grwydr mewn man anghysbell o Barc Cenedlaethol Mercantour.
Roedd yr awdurdodau eisoes wedi rhybuddio am y perygl o lithriadau eira yn yr Alpau, a hynny yn sgil yr eira trwm dros y dyddiau diwethaf.