Mae cyn-hyfforddwr pêl-droed o Loegr wedi’i gyhuddo o gam-drin 11 bachgen ifanc yn rhywiol tros gyfnod o fwy na 30 mlynedd, rhwng 1978 a 2009.

Bu Michael ‘Kit’ Carson yn gweithio i glybiau Norwich City, Peterborough United a Cambrige United yn ystod ei yrfa.

Mae wedi ei gyhuddo o 11 achos o gam-drin rhywiol, ac un achos o annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred rywiol.

Roedd pob un o’r cyhuddiadau yn gysylltiedig â 11 bachgen, a’r rheiny i gyd rhwng 11-16 oed.

Mynd gerbron y llys

Fe gafodd Michael Carson ei ddwyn i’r ddalfa’r llynedd, a hynny fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol ym myd pêl-droed.

Fe gafodd y cyhuddiadau ei ddwyn o’i flaen heddiw (Mawrth 2), a hynny ar ôl iddo fod ar fechnïaeth.

Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caergrawnt ar Ebrill 17.