Mae dyn o Aberhonddu yn gorfod talu dros £1,000 ar ôl iddo adael sbwriel mewn maes parcio yn y dref.
Ymddangosodd Ahmet Et o Heol y Defaid, Aberhonddu, o flaen Llys Ynadon Llandrindod ddydd Mercher (Chwefror 28), a phlediodd yn euog i gyhuddiad o adael gwastraff ar dir heb drwydded.
Clywodd y llys bod swyddogion Cyngor Sir Powys wedi derbyn gwybodaeth gan dîm glanhau strydoedd y cyngor ynglŷn â bagiau du a oedd wedi’u gadael ym maes parcio Rich Way yn Aberhonddu ym mis Mehefin 2017.
Ac ar ôl i’r swyddogion ymchwilio, cafodd y gwastraff, a oedd yn gymysgedd o wastraff masnachol a bwyd, ei olrhain i’r siop fwyd cyflym, Brecon Chicken And Pizza Land.
Cafodd Ahmet Et ddirwy o £750 gan yr ynadon am y drosedd, a chostau gwerth £330 – gan ddod a’r cyfanswm i £1,080.
“Anfon neges gref”
“Rydym yn falch bod y llys wedi anfon neges gref trwy osod dirwy sylweddol,” meddai’r Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Gwastraff ac Ailgylchu.
“Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol sy’n costio’n ddrud i drethdalwyr y cyngor ac yn niweidio ein hamgylchedd.
“Rydym yn cynyddu ein gweithgareddau gorfodaeth ar draws y sir trwy daclo pob math o waredu gwastraff amhriodol fel y gallwn ni helpu i gadw Powys yn lân a thaclus.”