Mae’r rhan fwyaf o eisteddfodau lleol yr Urdd, a oedd i fod i gael eu cynnal y penwythnos hwn, wedi eu gohirio oherwydd y tywydd garw.
Mae eira mawr a rhew dros rannau helaeth o Gymru yn golygu bod trefnwyr yr eisteddfodau lleol wedi gorfod gohirio’r eisteddfodau a fyddai wedi cael eu cynnal naill ai heno (Mawrth 2) neu yfory (Mawrth 3).
Hyd yn hyn, mae 36 o eisteddfodau wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gohirio, gyda’r trefnwyr yn gobeithio eu cynnal eto yn ystod y penwythnosau nesaf.
Mae rhestr o’r diweddariadau ar wefan yr urdd ar http://www.urdd.cymru/cy/eisteddfod/
Datganiad yr Urdd
“Yn sgil y tywydd gaeafol bu rhaid gohirio nifer helaeth o Eisteddfodau Cylch yr Urdd oedd wedi’u trefnu ar gyfer y penwythnos hwn.
“Mae rhan fwyaf o’r Eisteddfodau yn barod wedi cyhoeddi dyddiad ac amser newydd ar gyfer eu cylch.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i holl staff, gwirfoddolwyr a phwyllgorau cylch yr Urdd am eu gwaith caled yn gwneud y trefniadau addas ac yn edrych ymlaen at y cystadlu o fewn yr wythnosau nesaf.”
Mi fydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal eleni ar Faes y Sioe yn Llanelwedd rhwng Mai 28 a Mehefin 2.