Mae disgwyl i gân Gymraeg saethu i frig y siartiau clasurol dros y dyddiau nesaf.
Cafodd sengl gyntaf Trystan Llŷr Griffiths, ‘Gwahoddiad’, ei chyhoeddi ar Ddydd Gŵyl Dewi, ac eisoes mae wedi cyrraedd rhif dau yn y siartiau.
Bydd y Cymro yn sicr yn obeithiol o ddisodli’r gân sydd ar frig y siartiau clasurol, sef deuawd rhwng Ed Sheeran a Andrea Bocelli.
Mae’r tenor yn hanu o Glunderwen yn Sir Gaerfyrddin, ac yn ymuno â fe ar y recordiad mae ei gôr lleol, Côr Undebol Wedi Tri.
Cewri cerddoriaeth
“Dw i wrth fy modd, yn falch iawn bod ‘Gwahoddiad’ wedi gwneud cystal, a chymaint yn cael eu swyno gan ein diwylliant a’n hiaith ni,” meddai Trystan Llŷr Griffiths.
“Diolch i bawb sydd wedi mynd wrthi i lawr lwytho’r sengl, ac am gymaint o gefnogaeth o Gymru ac o ar draws y byd. Byddai’n grêt cyrraedd y brig, ond mae Sheeran a Bocelli yn gewri yn y byd cerddoriaeth!”