Mae tua hanner cant o ferched yn dal ar goll, ddyddiau wedi ymosodiad ar bentref yn Nigeria gan eithafwyr Boko Haram.
Fe gafodd nifer o’r merched o ysgol breswyl eu cipio i ddiogelwch pan ymosododd ymladdwyr Boko Haram ar y pentref yn nhalaith Yobe nos Lun (Chwefror 19).
Ond mae llefarydd ar ran y llywodraeth y wlad yn dweud fod tua hanner cant o ferched yn dal ar goll – er nad oes ganddyn nhw dystiolaeth ddigamsyniol mai Boko Haram sydd wedi mynd â nhw.
Er hynny, mae rhai tystion wedi disgrifio gweld yr ymladdwyr yn mynd â merched gyda nhw.
Fe ddaeth Boko Haram i sylw’r byd pan aethon nhw â 276 o ferched yn erbyn eu hewyllys o bentref Chibok yn 2014. Y gred ydi fod tua 100 o’r rheiny’n dal gan y mudiad.