Mae Llywodraeth San Steffan wedi “estyn llaw” i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon trwy gynnig bod pwerau o Frwsel yn mynd yn syth i’r llywodraethau datganoledig wedi i Brexit ddigwydd.
Bydd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford, yn Llundain heddiw i gwrdd â dirprwy Theresa May, David Lidington; yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis; Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns; a chynrychiolwyr o’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Bydd cyfarfod o’r Cydbwyllgor Gweinidogion yn digwydd am 10 o’r gloch bore yma, lle bydd newidiadau i’r mesur ar adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu trafod.
Yn ôl Llywodraeth Prydain, byddai’r newidiadau yn golygu bod y “mwyafrif helaeth” o bwerau’r Undeb Ewropeaidd yn mynd yn syth i’r llywodraethau datganoledig.
“Mae’r cynnig rydym ni wedi rhoi ar y bwrdd yn gynnig sylweddol a dw i’n gobeithio y bydd y llywodraethau datganoledig yn ymateb yn adeiladol,” meddai David Lidington, sy’n cadeirio’r cyfarfod heddiw.
“Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy’n parchu rôl y llywodraethau datganoledig ac sy’n sicrhau ein bod yn gallu diogelu ein marchnad fewnol yn y Deyrnas Unedig.
“… Rydym wedi dangos ein bod yn fodlon gwrando a newid ein dull er mwyn dod o hyd i ffordd ymlaen ac rydym yn annog eraill i wneud yr un peth fel ein bod yn gallu gwneud cynnydd da.”
Llywodraeth Cymru i wrthod?
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol na fyddan nhw’n gallu cytuno ar y mesur os nad yw pwerau o Frwsel yn dod yn syth i Fae Caerdydd yn hytrach na San Steffan.
Ond mae adroddiadau yn y wasg y bore yma bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwrthod y cynnig.
“Mae trafod drwy ddatganiad i’r wasg ddim yn ffordd synhwyrol o fynd at fater mor sensitif a phwysig,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Byddwn yn mynd i’r Cyd-Bwyllgor Gweinidogion gyda’r bwriad i ddiogelu’r setliad datganoli a chymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon, er gwaethaf dull da i ddim Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”