Mae ymosodwr wedi taflu grenâd at lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau ym mhrifddinas Montenegero, cyn ei ladd ei hun gyda dyfais ffrwydrol arall.

Mae’r ardal yn Podgorica wedi’i chau i ffwrdd gan yr heddlu, ac fe ddaeth rhybudd gan y llysgenhadaeth i Americanwyr i geisio osgoi’r lle yn llwyr oherwydd “sefyllfa yn ymwneud â diogelwch”.

Mae llywodraeth Montenegro wedi dweud fod y gwr wedi taflu grenâd at yr adeilad tua hanner nos ddydd Mercher (Chwefror 21) cyn ei ladd ei hun.

Chafodd neb arall ei anafu, ac ni chafodd difrod mawr ei achosi.

Mae Montenegro yn ffinio gyda’r Mor Adriatig yn ne-ddwyrain Ewroip, ac fe ddaeth y wlad yn aelod o NATO y llynedd.

The US established diplomatic ties with the tiny Balkan state in 2006 after it split from much larger Serbia.