Mae pump o fechgyn yn eu harddegau yn Awstralia yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty wedi iddyn nhw or-ddosio ar gyffuriau mewn ysgol breifat.
Mae’r bechgyn 14 a 15 oed mewn cyflwr difrifol iawn yn Ysbyty Prifysgol Gold Coast, er eu bod nhw’n dal i wella.
Fe gafodd saith o fechgyn eu cludo o Goleg St Stephen yn Upper Coomera yn gynnar brynhawn Mercher (Chwefror 21) wedi i staff sylwi eu bod nhw dan ddylanwad cyffuriau. Fe gafodd dau o’r bechgyn eu hanfon gartref o fewn 24 awr.
Mae heddlu talaith Fictoria wedi cadarnhau fod y bechgyn wedi cymryd cyffur ar ffurf powdwr, ond dydyn nhw ddim yn fodlon dweud mwy na hynny.
“Dydyn ni ddim yn trafod eich math clasurol o gyffur yn fan hyn,” meddai llefarydd.
Mae’r heddlu’n dal i ymchwilio i sut y medrodd y bechgyn gael gafael ar y cyffur, faint ohono y maen nhw wedi’i gymryd, a ph’un ai oes plant eraill wedi prynu’r un stwff.