Mae banc Barclays wedi gwneud 10% yn fwy o elw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – ond mae hynny’n dal i fod yn llai nag yr oedden nhw wedi’i ddisgwyl.
Mae bos y banc, Jes Staley, yn dweud i’r deuddeg mis diwethaf fod yn flwyddyn o “gynnydd strategaethol sylweddol”, wrth iddo gofnodi elw cyn-treth o £3.54bn ar gyfer 2017. Yr elw ar gyfer 2016 oedd £3.23bn.
Mae Barclays yn dweud iddyn nhw roi o’r neilltu £1.2bn ar gyfer talu costau cyfreithiol, yn cynnwys £700m ar gyfer iawndal yswiriant PPI, ond na fu costau o’r newydd yn ymwneud â’r sgandal o gam-werthu honno.
Fe ddaw’r cyhoeddiad diweddaraf yn dilyn cyfnod o ail-strwythuro o fewn y banc. Mae wedi diswyddo 60,000 o weithwyr, tra’n gwerthu busnesau yn Affrica.
“Mae’r grwp yn dechrau gweld canlyniadau y gwaith wnaethon ni yn ystod 2017,” meddai Jes Staley.
“Mae ganddon ni bellach bortffolio proffidiol o fusnesau, sy’n cynhyrchu elw sylweddol, ac mae ganddon ni gynlluniau a buddsoddiadau mewn lle er mwyn cynyddu’r elw hwnnw dros amser.”