Mae dyn 49 oed wedi marw, ac o leiaf deg person wedi eu hanafu wedi i losgfynydd ffrwydro ger canolfan sgïo boblogaidd yn Siapan.
Ffrwydrodd llosgfynydd Kusatsu-Shirane yn ardal Kusatsu am tua 10 o’r gloch fore Mawrth (Ionawr 23) gan hyrddio cerrig tanllyd i’r awyr.
Roedd y dyn bu farw yn aelod o Lu Amddiffyn Siapan, a chafodd ei ladd gan un o’r cerrig tanllyd yma yn ystod ymarferiad milwrol yn yr ardal.
Car cêbl
O’r rhai gafodd eu hanafu mae o leiaf dri mewn cyflwr difrifol. Yn ôl rhai adroddiadau roedd ambell un o’r unigolion mewn car cebl ar y pryd.
Mae bron i 80 o bobol sy’n sownd mewn gorsaf ceir cebl ar lethrau’r llosgfynydd, yn y broses o gael eu cludo oddi yno gan awdurdodau.
Mae’r olygfa o du fewn i un o’r ceir cebl yma i’w weld yn y fideo hwn: