Sainsbury’s yw’r cwmni archfarchnad diweddaraf i gyhoeddi y bydden nhw’n cael gwared ar filoedd o swyddi, mewn ymdrech i ailstrwythuro’r cwmni ac arbed costau.
Mae Sainsbury’s yn dweud eu bod nhw ar hyn o bryd yn ymgynghori â staff ynglŷn â sut y gallen nhw leihau’r nifer o swyddi rheoli yn eu canghennau, gan fygwth miloedd o swyddi.
Fe fydd y rheiny sy’n cael eu heffeithio gan y newid wedyn yn cael y dewis o naill ai ymgeisio am swyddi rheoli newydd, derbyn swyddi is, neu wynebu colli eu gwaith.
Yn ôl y cwmni, mae’r newidiadau hyn yn cael eu gwneud er mwyn “wynebu heriau’r amgylchedd fasnachol presennol”, ac i wneud strwythur y cwmni yn fwy “effeithlon”.
Toriadau’r Archfarchnadoedd
Dim ond y llynedd y cafodd hyd at 3,000 o swyddi eu gwaredu o’r cwmni, a hynny er mwyn arbed £500m o gostau.
Roedden nhw hefyd wedi rhybuddio ddechrau eleni bod yna heriau i’w wynebu yn y farchnad, ar ôl i Argos, a gafodd ei brynu gan y cwmni yn 2016, berfformio’n wael y llynedd.
Fe wnaeth gwmni archfarchnad arall, sef Tesco, gyhoeddi ddoe hefyd y bydden nhw’n cael gwared ar 1,700 o swyddi er mwyn “symleiddio” strwythur y cwmni ac arbed costau.
Mae Asda hefyd wedi cadarnhau yn ddiweddar y bydden nhw’n gwneud toriadau.