Mae dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghwm Hirwaun yn ystod oriau mân y bore.
Fe gafodd y gwasanaeth tân ei galw i dŷ ar Stryd Gamlyn yn Hirwaun, ger Rhondda Cynon Taf, toc cyn 3yb heddiw.
Bu 25 o ymladdwyr tân yno yn brwydro’r fflamau a oedd wedi cychwyn ar lawr cyntaf un tŷ, cyn lledaenu ac effeithio ar bedwar tŷ cyfagos.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod nhw hefyd wedi rhoi cymorth cyntaf i ddyn, cyn iddo gael ei gludo i Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.
Ond ers hynny, mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod y dyn hwnnw wedi marw.
Mae’r tân bellach wedi’i ddiffodd, ac mae’r Groes Goch yn parhau i roi cymorth i bobol leol a adawodd eu cartrefi yn ystod y nos.