Mae Rupert Murdoch yn dweud y dylai Facebook dalu i rai cwmnïau newyddion “dibynadwy” am gyhoeddi eu straeon.

Fe ddaw’r cyhoeddiad hwn wedi i gwmni Facebook addo yr wythnos ddiwetha’ i hybu’r ffynonellau newyddion mwya’ dibynadwy ar eu gwefan, a rhoi lle llai amlwg i lif newyddion ffug.

Mae Rupert Murdoch yn berchen papur y Wall Street Journal, Fox News, y New York Post, ac mae o’r farn bod cyhoeddwyr felly yn rhoi mwy o hygrededd i Facebook, heb gael eu cydnabod na’u talu’n deg am y gwasanaeth.

Yn y gorffennol, mae Rupert Murdoch wedi cyhuddo peiriant chwilio Google o “ddwyn” newyddion heb dalu amdano.

Mae’r ddadl ddiweddara’ hon yn enghraifft o sut y mae’r diwydiant newyddion yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i’w le yn y byd ar-lein, na gweithio allan sut i wneud arian fel cynt.