Mae cyfanswm o 1,450 o bobol wedi gorfod symud o adeiladau yng nghanol Llundain oherwydd pryderon fod nwy yn gollwng.
Mae llygad tystion yn disgrifio’r sefyllfa fel “anhrefn”, ar ôl i bobol orfod ffoi yn ystod yr oriau mân o glwb nos, gwesty, fflatiau a gorsaf drenau yn ninas Westminster.
Mae’r gwasanaethau brys wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cael eu galw i safle yn Stryd Craven, a’u bod nhw’n cydweithio â’r Grid Cenedlaethol i reoli a datrys y broblem.
Mae’r cyhoedd wedi cael eu cynghori i osgoi’r safle, ac mae un o brif ffyrdd canol Llundain, sef y Strand, ynghau ar hyn o bryd, ynghyd â gorsaf Charing Cross.
Dyma’r ail dro yn ystod yr wythnosau diwethaf i bobol orfod symud o adeiladau yn Westminster oherwydd bod nwy yn gollwng, gyda’r achos diwethaf ar Ionawr 9 yn dilyn digwyddiad ar Heol Horseferry.
Mae gorsaf drenau Dwyrain Waterloo hefyd wedi cau, yn rhan o’r digwyddiad.