Mae dau o bobol wedi marw, a thrydydd wedi’i anafu, mewn damwain ar Fynydd y Bwrdd yn Cape Town, De Affrica.
Mae’r cyfryngau lleol yn adrodd bod dau gorff wedi’u canfod yn gynnar fore heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 2) wedi i’r gwasanaethau brys gael eu galw yn hwyr ddydd Llun.
Roedd yr achubwyr wedi abseilio o gar cêbl er mwyn cael at y rheiny oedd mewn helynt.
Mae’r African News Agency yn dweud fod y tri dringwr yn defnyddio rhaffau pan syrthion nhw oddi ar y mynydd. Bu farw dau yn syth.
Eto, yn ol adroddiadau, roedd y tri wedi bod yn abseilio i lawr y mynydd pan aethon nhw i drafferthion.