Mae dau ddyn wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth, wedi ymosodiad ar ddyn mewn clwb nos dros y Sul.
Mae Ian Power, 39, ac Errol Anderson, 55, wedi’u cyhuddo o ladd Jamel Powell, 37, a fu farw yn dilyn digwyddiad yn nghlwb nos y Blue Mountain Club ym Mryste ar Ragfyr 30.
Mae disgwyl i’r ddau ymddangos gerbron Llys Ynadon Brysten heddiw.
Mae dau ddyn arall wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad â’r digwyddiad am 3yb.
Mae Rafiki Powell, 30, a Meikel Powell, 29, ill dau wedi’u cyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol i ddyn 55 oed y tu allan i’r un clwb.
Mae disgwyl iddyn nhwthau hefyd ymddangos gerbron ynadon y ddinas heddiw.