Tîm rygbi’r gynghrair Awstralia yw pencampwyr y byd ar ôl trechu Lloegr o 6-0 yn rownd derfynol Cwpan y Byd yn Brisbane.
Cael a chael oedd hi drwy gydol y gêm ac fe fu’n rhaid i Awstralia amddiffyn yn gadarn yn y munudau olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth – y tro cyntaf iddyn nhw godi’r tlws ar eu tomen eu hunain ers 1977.
Roedd 40,033 o bobol yn Stadiwm Suncorp.
Maen nhw bellach yn ddi-guro am yr ail flwyddyn yn olynol o dan yr hyfforddwr Mal Meninga.
Cyfunodd Cameron Smith, Cooper Cronk a Michael Morgan i greu unig gais y gêm wrth i Boyd Cordner fylchu i groesi’r llinell.
Ciciodd y capten Cameron Smith y trosiad i ymestyn eu mantais i 6-0.