Mae’r dyfarnwr criced Russell Evans wedi marw’n sydyn yn 52 oed.
Fe fu cyn-fatiwr Swydd Nottingham yn cael llawdriniaeth yn yr ysbyty, ac fe fu farw o ganlyniad i gymhlethdodau.
Roedd yn ddyfarnwr dosbarth cyntaf am bedair blynedd, gan ddyfarnu mewn gemau ugain pelawd rhyngwladol hefyd.
Fe chwaraeodd hefyd i Swydd Lincoln ym Mhencampwriaeth y Siroedd Llai.
Roedd yn adnabyddus hefyd fel gwneuthurwr batiau criced.
‘Potensial’
Ac yntau’n ddyfarnwr ers chwe blynedd, dywedodd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ei fod e “yn dechrau dangos potensial i fynd â’i yrfa ymhellach ac i lefel uwch fyth”.
“Mae hwn yn newyddion trist ofnadwy i ffrindiau a chydweithwyr niferus Russell o fewn ein gêm broffesiynol.
“Roedd Russell wedi gwireddu breuddwyd bore oes drwy ddod yn ddyfarnwr dosbarth cyntaf ac roedd e eisoes yn dechrau dangos potensial i fynd â’i yrfa ymehllach ac i lefel uwch fyth.
“Roedd ei ddiwydrwydd, ei broffesiynoldeb a’i sylw i fanylion wedi ennyn cryn barch iddo ymhlith ei gyd-ddyfarnwyr a doedd unrhyw dasg fyth yn rhy fawr neu’n rhy fach iddo fe.
“Bydd cryn golled ar ei ôl ac rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu yn eu colled ddisymwth.”