Mae Llywodraeth Catalwnia wedi pasio cynnig i adael Sbaen a sefydlu gwlad annibynnol newydd.

Fe wnaeth y gwrthbleidiau benderfynu boicotio’r bleidlais yn y Senedd yn Barcelona heddiw – ond fe basiodd cynnig y glymblaid sydd mewn grym.

Bu curo dwylo wrth i’r bleidlais gael ei chymeradwyo gyda 70 o bleidleisiau o blaid, 10 yn erbyn a dwy bleidlais wag.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Sbaen yn paratoi i gymryd grym oddi ar Gatalwnia, gyda’r Prif Weinidog, Mariano Rajoy, yn cyhuddo’r llywodraeth ddatganoledig o dorri’r gyfraith.

Mae cynnig Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, yn galw am barhau â’r broses at annibyniaeth sy’n cynnwys creu cyfreithiau newydd a dechrau trafod ag awdurdodau Sbaen i sefydlu cydweithrediad.

Sbaen yn dechrau gweithredu

Mae Mariano Rajoy eisoes wedi galw ar Senedd Sbaen i ganiatáu mesurau cyfansoddiadol arbennig a fyddai’n galluogi’r llywodraeth ganolog i dynnu pwerau Catalwnia oddi arni i atal cynlluniau annibyniaeth.

Cafodd y Prif Weinidog gymeradwyaeth cyn ac ar ôl ei araith yn Madrid, a ddywedodd wrth siambr y Senedd fod Sbaen yn wynebu’r her fwyaf mewn hanes diweddar.

Dywedodd mai’r cam cyntaf fyddai i ddisodli Carles Puigdemont a’i weinidogion os bydd y Senedd yn pleidleisio dros weithredu rhan o’r cyfansoddiad i dynnu hunanlywodraeth oddi ar Gatalwnia.

Mae disgwyl y bleidlais honno yn ddiweddarach heddiw.

Dywedodd nad yw Sbaen yn ceisio tynnu rhyddid oddi ar Gatalaniaid ond yn ceisio eu diogelu yn lle.