Mi fydd awdur a cholofnydd dadleuol sy’n gwrthwynebu gwario arian y trethdalwr ar hybu’r iaith Gymraeg, yn gwyntyllu ei ddadl ar S4C yr wythnos nesaf.

Mewn rhifyn o raglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar mi fydd Julian Ruck yn ailadrodd yr hyn ddywedodd mewn rhifyn dadleuol o Newsnight yn ystod wythnos y Steddfod, meddai.

Nôl ym mis Awst fe ddywedodd Julian Ruck ei fod yn gwrthwynebu gwario arian y trethdalwr ar gefnogi’r Gymraeg, a hynny mewn eitem ddadleuol ar Newsnight wnaeth arwain at filoedd yn arwyddo deiseb yn cwyno am y rhaglen.

Ar y pryd bu Julian Ruck yn trafod ‘a ydy’r Gymraeg yn help neu’n hindrans i’r genedl’ ac yn dadlau yn erbyn ariannu hybu’r Gymraeg – denodd ymateb chwyrn gan wleidyddion a’r cyhoedd.

Mae Julian Ruck wedi dweud wrth golwg360 ei fod wedi cael gwahoddiad i fod ar Y Byd ar Bedwar, ac mai testun y rhaglen yw’r hyn y trafododd ar Newsnight.

“Mae’n dod lawr i hyn,” meddai Julian Ruck wrth golwg360. “Y mater sylfaenol yw – nid o reidrwydd yr iaith Gymraeg ynddi hun – ond cost yr iaith Gymraeg. Dyna sydd yn fy mhryderu i. Does gen i ddim problem ag unrhyw un yn siarad Cymraeg neu unrhyw iaith arall – nid yw’n fy mhoeni o gwbl.

“Ond, y gost [yw’r broblem]. Wnes i gyfleu’n glir bod [gwylwyr a gwrandawyr] S4C, Radio Cymru a’r gweddill i lawr. Cwymp argyfyngus. Mae S4C yn derbyn llai nag 1% o wylwyr … mae Radio Cernyw gyda mwy o wrandawyr na Radio Cymru – mae’n blydi wirion!” meddai wrth chwerthin.

Newsnight

Nid yw Julian Ruck yn derbyn y ddadl nad oedd ganddo’r hawl i fynd ar Newsnight i drafod yr arian sy’n cael ei wario ar yr iaith Gymraeg.

Ac mae ganddo neges i’r “Welsh language fanatics”, meddai.

“Pwy ddiawl ydyn nhw i ddweud y dylwn i ddim cael fy ngwahodd o gwbl?” meddai.  “O le mae’r crap yma yn dod? I ddechrau dw i’n awdur o fri. Dw i’n golofnydd.

“Pwy ydyn nhw i ddweud y dylwn i ddim cael fy ngwahodd o gwbl? Pwy ar wyneb y ddaear ydyn nhw? Dw i’n dweud b*lycs i chi! Rydych chi’n credu bod gyda chi’r hawl i ddylanwadu cynnwys gorsafoedd rhyngwladol? Ff*c *ff!”

Ymateb S4C

“Fe fydd y rhifyn hwn o’r gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar yn edrych ar sefyllfa’r iaith Gymraeg, a hynny wrth i gyfnod ymgynghori Llywodraeth Cymru ar Fil y Gymraeg ddod i ben,” meddai llefarydd ar ran S4C.

“Mae’r gohebydd Catrin Haf Jones yn siarad â thrawsdoriad eang o bobol sydd yn cynrychioli safbwyntiau gwahanol iawn am yr iaith. Mae’n cynnwys cyfweliad gyda’r colofnydd dadleuol Julian Ruck, sy’n adlewyrchu un farn benodol am y Gymraeg, gan graffu’n fanwl ar ei safbwyntiau a’i honiadau.”