Mae o leiaf bump o gwmnïau a sefydliadau yng Ngheredigion yn wynebu trafferthion ar ôl cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i swyddfeydd newydd o fewn pedwar mis.
Ar hyn o bryd maen nhw yn llogi swyddfeydd gan Brifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant, sydd am werthu’r adeilad sy’n eu cartrefu.
Mae dau o’r mudiadau yno wedi dweud mai dim ond dwy flynedd yn ôl yr oedden nhw wedi symud i’r adeiladau yng Nghanolfan Dulais.
Mae’r Brifysgol hefyd yn ceisio gwerthu adeilad sylweddol yng nghanol y dref – roedd hwnnw wedi bod yn wag ers tro.
‘Ansicrwydd yn bryder’
“Mae’r ansicrwydd hwn yn bryder mawr i ni gyd,” meddai Cen Llwyd, cadeirydd elusen HomeStart yng Ngheredigion sy’n cefnogi teuluoedd gydag anghenion.
Mae’n dweud eu bod wedi cael rhybudd i adael eu swyddfa erbyn diwrnod ola’ mis Chwefror y flwyddyn nesa’.
Mae “cryn anniddigrwydd” yn nhref Llanbed, meddai, am fod amryw o adeiladau’r Brifysgol “yn wag a’u cyflwr yn gwaethygu”.
Mae cynrychiolydd mudiad arall ar y safle yn dweud y bydd dod o hyd i le arall yn “ben tost” oherwydd prinder swyddfeydd da am bris rhesymol.
“Y broblem fwya’ i ni fydd newid cyfeiriad, achos ni’n delio â phasborts ceffylau drwy Brydain,” meddai Gwenan Thomas, cofrestrydd Cymdeithas Ceffylau Harnes a Throtian y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Mae’n dweud mai newydd symud i Lanbed o Landrindod y mae’r gymdeithas ddwy flynedd yn ôl a “doedd dim arwydd o’r ansicrwydd bryd hynny.”
Ymateb y Brifysgol
Mewn datganiad mae llefarydd ar ran Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn dweud eu bod wedi penderfynu gwerthu Canolfan Dulais ar ôl arolygu’r ystâd.
“Mae ein strategaeth yn cynnwys rhyddhau rhai o adeiladau’r Brifysgol er mwyn buddsoddi yn yr ystâd a phrofiad y myfyrwyr ar ein campysau,” meddai’r llefarydd.
“Mae’r Brifysgol wedi adnabod Canolfan Dulais fel un o’r adeiladau a fydd yn cael ei gwerthu yn Llanbed.
“Daeth les y tenantiaid i ben ac yn sgil hynny ysgrifennwyd atynt er mwyn eu hatgoffa a’u hysbysu na fyddai’r Brifysgol yn adnewyddu’r prif les.
“Er mwyn caniatáu amser iddynt wneud trefniadau eraill cynigiwyd cytundeb tymor byr iddynt a, lle bo hynny’n ymarferol, mae’r Brifysgol yn cydweithio gyda rhai o’r tenantiaid i adnabod llety amgen ar eu cyfer”.