Mae Cynghorydd o Fôn yn mynnu fod hwliganiaeth a goryfed yn ffair flynyddol Porthaethwy wedi “marw allan”- a hynny er gwaethaf cwynion pobol leol i’r ŵyl eleni.
Mae’r dref fach ger Afon y Menai wedi bod yn cynnal Ffair y Borth ers y 17eg ganrif, ac yn wreiddiol roedd yn gyfle i fasnachwyr arddangos eu nwyddau.
Bellach mae trigolion lleol yn pryderu bod natur yr ŵyl wedi newid, gydag unigolion ar Facebook yn nodi ei fod yn “esgus am [feddwad]” sydd yn arwain at “strydoedd llawn hwliganiaid”.
Er na fuodd y Cynghorydd Alun Wyn Mummery yn y ffair gafodd ei chynnal ddydd Mawrth, mae yn wfftio’r cwynion ac yn awgrymu bod yr ŵyl yn well nag oedd hi flynyddoedd yn ôl.
Blychau paffio
“Mae’n bosib iawn ei fod yn well nag oedd hi,” meddai’r cynghorydd sy’n un o ddau sy’n cynrychioli Porthaethwy ar Gyngor Môn wrth golwg360.
“Am gyfnod yn y 60au, 70au, roedd pobol yn y colegau ym Mangor yn creu tipyn o stŵr. Yn y blynyddoedd diwethaf, ychydig iawn iawn dw i wedi clywed am ddim miri yno.
“Fe fuodd yna drwbl rhyw ddwy, dair, blynedd yn ôl. Ac ers hynny’r unig gwynion dw i’n cael yn flynyddol ydy gan bobol sydd yn byw ar gyrion y ffair. Y nosweithiau cyn y ffair pan maen nhw’n cychwyn ychydig bach yn gynnar. O ran y ffair ei hun dw i ddim wedi clywed dim byd yn ôl.”
Yn ôl y cynghorydd roedd ffeiriau’r gorffennol yn cynnwys blychau paffio a gweision fferm oedd am godi stŵr, ond mae’n mynnu mai teuluoedd â phlant sydd yn cael eu denu yno bellach.