Mae Llywodraeth Prydain yn credu “yn eithaf pendant” mae Gogledd Corea wnaeth ymosod ar gyfrifiaduron y Gwasanaeth Iechyd yn gynharach eleni.
Dyna ddywedodd Ben Wallace, un o Weinidogion y Swyddfa Gartref, am yr ymosodiad seibr pan oedd y drwgweithredwyr yn gofyn am arian er mwyn rhoi’r gorau i amharu ar gyfrifiaduron.
Eisoes roedd Gogledd Corea yn cael y bai gan arbenigwyr ar ddiogelwch a Llywydd cwmni Microsoft, Brad Smith.
Ond dyma’r tro cyntaf i un o Weinidogion y Swyddfa Gartref bwyntio’r bys.
“Rydym yn credu yn eithaf pendant bod yr ymosodiad hwn wedi deillio o wlad dramor,” meddai Ben Wallace wrth raglen Today BBC Radio 4.
“Rydan ni yn credu mai Gogledd Corea oedd y wlad… rydym mor sicr o hynny ag sy’n bosib.”
Oherwydd yr ymosodiad ar gyfrifiaduron y Gwasanaeth Iechyd ym mis Mai, bu’n rhaid gohirio 19,500 o apwyntiadau meddygol, gyda phump o ysbytai yn gorfod dargyfeirio ambiwlansys i lefydd eraill ar ôl cael eu cloi allan o’u cyfrifiaduron.