Mae o leiaf bedwar o bobol wedi’u lladd mewn damwain drên yn ne’r Ffindir.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn gynnar ddydd Iau (Hydref 26) yn Raseborg, tua 53 milltir i’r de-orllewin o ddinas Helsinki.
Y gred ydi mai milwyr oedd y rheiny sydd wedi marw, wrth i’r trên daro i mewn i gerbyd y fyddin.
Mae Gweinidog Amddiffyn y wlad wedi rhoi neges ar wefan gymdeithasol Twitter yn dweud fod “y dydd wedi dechrau gyda newyddion gwael” a’i fod yntau yn “teimlo’r galar”.