Wrth i Lywodraeth Catalwnia gyfarfod heddiw, mae Aelod Cynulliad a fu yno dros gyfnod y refferendwm annibyniaeth yn dweud ei bod hi’n hen bryd i’r gymuned ryngwladol ymyrryd.
Mae Llywodraeth Catalwnia yn cwrdd i drafod y camau nesaf ar ôl i Lywodraeth Sbaen gyhoeddi y byddan nhw’n tynnu pwerau oddi wrth swyddogion ac yn rheoli’r rhanbarth yn uniongyrchol o ddinas Madrid.
Y disgwyl yw i’r Arlywydd, Carles Puigdemont, wneud datganiad o annibyniaeth ond mae Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, wedi dweud y bydd hynny’n arwain at dynnu grym oddi wrtho.
“Sbaen yn orffwyll”
Yn ôl Adam Price AC, mae’r amser wedi dod i rywun gamu i mewn a cheisio dechrau’r trafod rhwng y ddwy lywodraeth.
“Dw i ddim yn gallu rhagweld y Catalaniaid yn camu nôl nawr o ddatgan annibyniaeth, felly dw i’n gweld nhw yn croesawu ymyriad gan y gymuned ryngwladol er mwyn ceisio negodi llwybr tuag at hunan-benderfyniad,” meddai wrth golwg360.
“Pe bai’r tanciau yn cael eu defnyddio a byddin Sbaen yn defnyddio’r darn yn y cyfansoddiad Sbaeneg er mwyn cyfiawnhau tanciau ar strydoedd Catalwnia, wel dw i yn gobeithio ac yn disgwyl i’r Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd i gamu i mewn ar y pwynt yna.
“Mae hyd yn oed y syniad o Sbaen yn arestio arweinwyr Catalwnia yn sarhad, ond hyd yma maen nhw wedi bod yn gwbl orffwyll felly mae unrhyw beth yn bosib mae arna’ i ofn.
“Nawr yw’r amser i’r gymuned ryngwladol, gan gynnwys Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, sydd wedi bod yn warthus ar y cwestiwn yma i gamu mewn.
“A dylai fod Llywodraeth Cymru yn dweud rhywbeth, nawr yw’r amser.”
Ewrop newydd
Dywedodd Adam Price o Blaid Cymru bod “Ewrop newydd yn cael ei eni” a bod Brexit a’r ymgyrch dros annibyniaeth yng Nghatalwnia yn enghraifft o’r “platiau tectonig yn dechrau symud” er ei fod yn pwysleisio nad yw’r ddau achos yn cael eu cymell gan yr un rhesymau.
“Mae yna ddau Ewrop ac mae’r Ewrop ry’n ni eisiau gweld yn brwydro cael ei eni a dyna pam ry’n ni’n gweld y tensiwn yna ar hyn o bryd,” meddai.
“Dw i’n siomedig [gydag ymateb yr Undeb Ewropeaidd i Gatalwnia] ond dyw hwnna ddim yn lladd fy ymlyniad i’r syniad o Ewrop ond nid falle’r Ewrop yma, falle bod ni’n dechrau symud ein ffocws i greu Ewrop newydd.
“Hynny yw, mae’r oes ry’n ni wedi byw drwyddi yn dod i ben ac rydyn ni’n ymlwybro tuag at rywbeth newydd a dydyn ni ddim yn siŵr beth yw hynny.”