Mae protestwyr wedi defnyddio biniau er mwyn rhwystro Gweinidog y Gymraeg rhag cael mynediad i’w swyddfa ei hun – gan ei annog i roi ei gynlluniau am ddeddfwriaeth newydd am yr iaith “yn y bin”.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal gwrthdystiad heddiw y tu allan i swyddfa’r Aelod Cynulliad Alun Davies yn Brynmawr.
Maen nhw’n anhapus fod y Gweinidog yn bwriadu diddymu swydd Comisiynydd y Gymraeg – sef, yn ol y Gymdeithas, “yr unig gorff sydd yn amddiffyn hawliau pobol i ddefnyddio’r iaith”.
Maen nhw hefyd yn anhapus gyda’r bwriad i reoleiddio llai; rhoi mwy o rym yn nwylo’r Llywodraeth; a gwanhau hawliau cwyno pobol am gyrff nad sydd yn rhoi gwasanaeth teilwng yn y Gymraeg.
Nid yw’r papur gwyn chwaith yn ehangu rheoleiddio i’r sector preifat.