Pont Brooklyn (Luna04 CCA 3.0)
Mae’r awdurdodau yn Efrog Newydd yn cadw llygad agos ar bontydd a thwneli yn y ddinas oherwydd bygythiad o ymosodiad terfysgol arall.

Fe fydd mesurau diogelwch mwy llym rhwng hyn a’r digwyddiadau ddydd Sul i  gofio’r ymosodiad ar y ddau dŵr union ddeng mlynedd yn ôl.

Yn ôl Maer Efrog Newydd, Michael Bloomberg, mae yna beryg “credadwy” y gallai al Qaida ymosod unwaith eto, er nad yw’r wybodaeth wedi ei chadarnhau’n bendant.

Yn ôl llefarydd o Adran Ddiogelwch Cartref yr Unol Daleithiau, roedd gwybodaeth o ganolfan arweinydd y mudiad, Osama bin Laden, yn trafod ymosodiad ar flwyddiant 9/11 a dyddiadau pwysig eraill.

Fe fydd rhagor o wyliadwriaeth ar dwneli a phontydd yn arbennig ac fe fydd ceir sy’n parcio’n anghyfreithlon yn cael eu symud yn gyflym.