Cafodd un o newyddiadurwyr y BBC ei ladd drwy gamgymeriad wedi i filwr yn Afghanistan ei gamgymryd am hunanfomiwr.

Cafodd Ahmed Omed Khpulwak, 25, oedd yn gweithio yn rhanbarth Urozgan yn ne’r wlad, ei saethu yn ystod ymosodiad terfysgol.

Yn ôl adroddiad i’r hyn ddigwyddodd a gafodd ei gyhoeddi heddiw roedd y milwr “wedi ymddwyn mewn modd rhesymol dan yr amgylchiadau”.

Roedd y milwr o’r Unol Daleithiau yn aelod o’r Llu Cymorth Diogelwch Rhyngwladol.

Cafodd 19 o bobol eu lladd yn ystod yr ymosodiad awr o hyd at 28 Gorffennaf, pan daniodd tri hunanfomiwr ceir yn llawn ffrwydron wrth giatiau un o ganolfannau’r llywodraeth.

Hawliodd y Taliban gyfrifoldeb am yr ymosodiad ym mhrifddinas daleithiol Tarin Kot.

Roedd Ahmed Omed Khpulwak, ymunodd â’r BBC ym mis Mai 2008, yn yr adeilad radio a theledu lleol pan ymosodwyd arno.

“Ar ôl adroddiad trylwyr penderfynwyd fod y gohebydd wedi marw ar ôl cael ei saethu drwy gamgymeriad gan filwr oedd yn credu ei fod ar fin tanio gwasgod ffrwydrol,” meddai’r adroddiad.