Fe fu brenin Norwy’n arwain y teyrngedau mewn gwasanaeth coffa yn Oslo heddiw i’r 77 o bobl a gafodd eu lladd gan eithafwr asgell dde fis yn ôl.

Neges y Brenin Harald i’r dorf o 6,700 yn  Stadiwm Spektrum yn y brifddinas oedd fod ‘rhyddid yn drech nag ofn’.

Wrth ddweud ei fod yn teimlo dros bob person yn y wlad, mynnodd ei fod yn sicr y byddai Norwy’n codi uwchlaw ei phoen.

“Dw i’n credu’n gryf y byddwn ni’n cynnal ein gallu i fyw yn rhydd ac yn agored yn ein gwlad,” meddai.

Agorodd y gwasanaeth gyda’r gantores opera o Norwy, Susanne Sundoer, yn canu un o ganeuon traddodiadol y wlad, ‘Fy Ngwlad Fach’, sydd wedi magu arwyddocâd arbennig ers yr ymosodiadau terfysgol yn Oslo ac ar ynys Utoya.

Mewn mannau eraill yn y brifddinas, roedd baneri’n hedfan ar hanner mast wrth i bobl osod blodau a phlant yn chwythu swigod sebon y tu allan i’r eglwys gadeiriol.

Mae Anders Behring Breivik wedi cyfaddef lladd 77 o bobl fis yn ôl pryd y taniodd fom mewn cerbyd y tu allan i swyddfeydd y llywodraeth yn Oslo, cyn mynd ymlaen i saethu at bobl ifanc mewn gwersyll ieuenctid yn Utoya, tua 25 milltir i ffwrdd.

Fe wnaeth tua 1,000 o o bobl a oedd yn cynnwys goroeswyr y gyflafan a’u teuloedd, deithio i Utoya, gyda heddlu a staff meddygol, i wynebu eu hatgofion poenus.

Roedd y gwasanaeth heddiw’n nodi diwedd cyfnod o fis o alar swyddogol am y rhai a gafodd eu lladd.