Cafodd 162 o achosion o losgi bwriadol eu cofnodi yn Llundain yn ystod y terfysgoedd (Llun PA)
Fe wnaeth Heddlu Llundain arestio bron i 2,000 o bobl yn sgil y terfysgoedd yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Scotland Yard heddiw.
Cafodd dros 1,000 o’r rhain eu cyhuddo â throseddau’n ymwneud â’r terfysgoedd.
Fe wnaeth yr heddlu gofnodi dros 3,000 o droseddau, a’r rhain yn cynnwys, ymysg eraill:
* 1,101 o achosion o fwrgleriaeth o adeiladau heblaw tai
* 162 o achosion o losgi bwriadol
* 399 o achosion o ddifrodi cerbyd modur
* 310 o achosion o ddwyn eiddo personol a
* 48 achos o anafu difrifol.
Meddai llefarydd ar ran Heddlu Llundain: “Roedd cyfanswm o 3,296 o droseddau’n gysylltiedig â’r anhrefn a ddigwyddodd yn Llundain rhwng 6 a 9 Awst.”