Mae gwrthryfelwyr yn Llain Gaza wedi parhau i ymosod ar ddeheudir Israel gyda rocedi a ffrwydron heddiw, gan daro ysgol wag ac amryw o dargedau eraill.

Mae’r ymosodiadau diweddaraf wedi dwysau’r pryderon fod y trais rhwng Palesteiniaid ac Israeliaid yn mynd allan o reolaeth.

Fe fu rhai o uchel-swyddogion llywodraeth Israel yn cyfarfod neithiwr i drafod sut i daro’n ôl yn erbyn gwrthryfelwyr llain Gaza – sy’n cael eu beio gan Israel am gychwyn y gwrthdaro diweddar trwy ladd wyth o Israeliaid mewn ymosodiad nos Iau.

Mae Israel eisoes wedi taro’n ôl trwy ladd 15 o Balesteiniaid, y mwyafrif ohonyn nhw’n wrthryfelwyr, mewn ymosodiadau o’r awyr.

Ond dywed y Brigadydd Yoav Mordechai ar ran byddin Israel na fydd Israel yn petruso cyn ehangu ei gweithredu milwrol.

Ers yr ymosodiad nos Iau, mae gwrthryfelwyr wedi tanio tua 100 o rocedi a ffrwydron ar ddeheudir Israel.