Abdelbaset al-Megrahi
Mae tad a gollodd ei ferch pan ffrwydrodd bom uwch Lockerbie, wedi dweud ei fod yn pryderu am ddiogelwch y gwr sydd wedi ei gael yn euog o fod yn gyfrifol am y trychineb.

Wrth gyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i ymgyrchu amlwg, mae Dr Jim Swire, sydd wedi bod yn llefarydd amlwg ar ran grwp UK Families Flight 103, yn poeni y gallai lluoedd arbennig yr Unol Daleithiau ladd Abdelbaset al-Megrahi.

Mae Megrahi, a gafodd ei ryddhau o garchar yn yr Alban ym mis Awst 2009 oherwydd ei fod yn ddifrifol wael, wedi ei gael yn euog o ladd 270 o bobol. Mae wedi treulio wyth mlynedd o’i ddedfryd 27 mlynedd.

O’r 270 o bobol hynny oedd yn teithio ar awyren Pan Am 103, roedd 11 o bobol leol a laddwyd pan syrthiodd darnau o’r awyren o’r awyr uwchben Lockerbie yn sir Dumfries and Galloway, ar Ragfyr 21, 1988.

Fe laddwyd Flora, merch Dr Swire, yn y digwyddiad.

“Dw i yn poeni am Megrahi,” meddai’r cyn-feddyg teulu sy’n byw yn Chipping Campden. “Mi fedra’ i weld yr uned anfonwyd i ladd Osama bin Laden yn cael ei anfon i’w ladd yntau.”