Theresa May, Ysgrifennydd Cartref
Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, wedi taro’n ôl yn erbyn penaethiaid yr heddlu ar fater sut y deliodd yr heddlu efo reiats yr wythnos diwetha’.

Ei gwaith hi, meddai May, ydi dweud wrth yr heddlu “beth mae’r cyhoedd am iddyn nhw ei wneud”.

Mae hi’n gwrthod derbyn y cwynion bod gwleidyddion yn ymyrryd gormod, wedi i bennaeth Scotland Yard wrthod “honiadau hynod o anwir a phoenus” bod yr heddlu wedi bod yn rhy wan.

Mae’r tensiwn rhwng yr heddlu a’r llywodraeth yn cynyddu.

Mae Mrs May wedi dweud fod “swyddogion unigol” wedi gwneud gwaith arwrol yn plismona’r strydoedd yn ystod y cwffio a’r ysbeilio, ac mae’n dweud fod “y wlad” yn ddyledus iawn iddyn nhw.