Mae dau o filwyr Nato wedi cael eu lladd gan fomiau yn Afghanistan.

Daw’r marwolaethau ddiwrnod wedi i bump milwr o America gael eu lladd gan fom yn ne’r wlad.

Yn ôl Nato, fe fu farw un o’r milwyr ar ôl i fom ffrwydro yn nwyrain Afghanistan, a chafodd un arall ei ladd mewn ymosodiad gan wrthryfelwyr yn y de.

Nid yw Nato wedi cyhoeddi o ba wlad y daw’r ddau filwr sy’ wedi eu lladd.

Hyd yma yn 2011 mae 376 o filwyr Nato wedi cael eu lladd yn y rhyfel yn Afghanistan.