Rifiera Ffrainc
Daeth twf economaidd Ffrainc i stop yn y gwanwyn, wrth i gwsmeriaid ddal yn ôl rhag gwario ac allforio cynnyrch ostwng yn aruthrol, yn ôl ystadegau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw.

Mae asiantaeth ystadegau yr INSEE yn dweud bod economi’r wlad heb ddangos cynydd yn yr ail chwarter, ar ôl tyfu 1% yn y chwarter cyntaf eleni.

Daw’r adroddiad wedi deuddydd o ymdrechion taer gan awdurdodau Ffrainc i leddfu pryderon buddsoddwyr, wedi dyddiau o sïon mai Ffrainc fydd yr economi fawr nwesaf i golli ei statws credyd AAA.

Fe ddychwelodd Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, yn gynnar o’i wyliau ddydd Mercher er mwyn cynnal cyfarfod brys â gweinidogion ei lywodraeth a phennaeth banc canolog Ffrainc, wrth i greisis yr Ewro ddwysau.