Fe allai cyflog Arweinydd Cyngor Powys godi 65% y flwyddyn nesa’.
Daw’r newyddion ychydig fisoedd ers i aelodau’r cabinet godi eu cyflogau 40%.
Mae’r codiad cyflog wedi ei argymell gan banel annibynnol gafodd ei ffurfio gan Lywodraeth Cymru, sydd eisiau ailfrandio lwfansau cynghorwyr yn ‘gyflogau’.
Pwysleisiodd Cyngor Powys nad oedden nhw wedi gofyn am y codiad, a chydnabod y gallai’r cynnydd ‘gyfleu’r neges anghywir’.
Os ddaw’r argymhelliad i rym mi fydd yr Arweinydd yn derbyn £47,500 y flwyddyn, sef cynnydd o bron i £16,000 ar ei gyflog yn y flwyddyn ariannol ddiwetha’.
Fis Ebrill fe bleidleisiodd yr Arweinydd, ynghyd â chyd-aelodau’r Cabinet, i gynyddu eu cyflogau gan 40%, oherwydd bod ganddyn nhw fwy o gyfrifoldebau.
Mae Panel Tâl Annibynnol Cymru sydd wedi argymell codi cyflogau cynghorwyr mewn rhai siroedd yng Nghymru, fel bod cysondeb o ran cyflogau ledled y wlad.
Yn ôl aelod o Gabinet Cyngor Powys byddai unrhyw godiad cyflog yn adlewyrchu’n wael ar gynghorwyr y sir.
“Mae’r amseru yn anffodus ac mae gorfodi rhai cynghorau i gynyddu taliadau yn yr hinsawdd sydd ohoni yn cyfleu’r neges anghywir,” meddai’r Cynghorydd Kath Roberts-Jones wrth The County Times.
O’i gymeradwyo byddai’r cyflog uwch yn cael ei gyflwyno fis Ebrill y flwyddyn nesa’ ymlaen, ond yn daladwy i gynghorwyr ar ôl etholiadau llywodraeth leol Mai 2012.