Er bod gan S4C 24% yn llai o arian i’w wario dros y blynyddoedd nesa’, mae’r Sianel am wneud mwy o Rownd a Rownd.

O fis Ionawr nesa’ ymlaen bydd y ddrama sebon o’r Gogledd yn cael ei darlledu drwy gydol y flwyddyn.

Ers i’r ddrama ogleddol Tipyn o Stad ddod i ben, bu nifer yn cwyno nad oedd y Sianel Gymraeg yn cynhyrchu digon o ddrama yn y gogledd. Roedd actorion fel Bryn Fôn yn uchel eu cloch.

Ar hyn o bryd mae S4C yn dangos 46 pennod o Rownd a Rownd, gyda phob un yn hanner awr o hyd. Ond o fis Ionawr ymlaen mi fydd 104 o benodau 20 munud yn cael eu darlledu.

Mi fydd trefn dangos Rownd a Rownd yn aros yr un fath, gyda dwy bennod yr wythnos ar ddydd Llun a ddydd Mercher ac ailddarllediad o’r ddwy bennod gyda’i gilydd ar nos Wener.

“Mae’n eithaf cynhyrfus,” meddai Cliff Jones, cynhyrchydd y gyfres wrth Golwg360 cyn ychwanegu bod y rhaglen “ar groesffordd.” 

Fe ddywedodd mai un o’r prif sialensau i’r tîm nawr yw cael trefn ar y gwaith ffilmio “gan nad oes diwedd cyfres o hyn ymlaen”.

Creu swyddi

Mi fydd angen mwy o weithwyr ar gwmni Rondo sy’n cynhyrchu Rownd a Rownd i S4C.

“Yn ystod y drefn flaenorol, pan oedden ni’n gwneud 46 doedden ni ddim yn gweithio gydol y flwyddyn efo dau griw,” meddai Cliff Jones.

“Un criw oedd o am beth o’r amser a bydde yna griw arall yn dod i mewn yn achlysurol er mwyn i ni fedru cynyddu’r broses. Ond, rŵan fe fydden ni’n rhedeg efo dau griw drwy gydol y flwyddyn.

“Rydan ni’n dweud drwy’r flwyddyn – ond mae yna gyfrifoldeb arnon ni o ran y plant i roi cyfnodau i ffwrdd iddyn nhw, yn enwedig pan mae’n dod yn gyfnod arholiadau a phethau fel hyn. Felly, mae yna gyfnod yn mynd i fod lle dy’ ni ddim yn ffilmio sef y cyfnod prysur yn y flwyddyn addysgol i’r plant,” ychwanegodd.

 “Pan oedden ni o’r blaen yn gwneud tair pennod mewn tair wythnos efo dau griw, rŵan rydan ni’n gwneud 10 pennod mewn tair wythnos.”

Cymeriadau newydd

Mae dros 40 yng nghast yn Rownd a Rownd ar hyn o bryd, yn ôl Cliff Jones, a dan y drefn newydd mi fydd angen mwy o actorion.

“Beth rydan ni’n wneud hefyd yw dod ag ambell i gymeriad newydd i mewn, ddim o reidrwydd i gael gwared â rhywun ond er mwyn ysgafnhau pethe’ i bobl eraill achos mae am fod yn anodd i gadw ambell i gymeriad i mewn drwy’r flwyddyn i gyd,” meddai’r cynhyrchydd.

“Felly, drwy ddod â chymeriadau newydd i mewn, rydan ni’n gallu rhoi stori i rywun am gyfnod o ryw chwe’, saith wythnos ac ysgafnhau’r baich ar y cymeriadau sydd wedi bod yn boblogaidd iawn,” ychwanegodd.

Fe fydd criw Rownd a Rownd yn dechrau ffilmio cyfres 2012 yr wythnos nesaf.

Gohebydd: Malan Vaughan Wilkinson