Barack Obama - wedi cyfarfod â'r Dalai Lama, er gwaetha' gwrthwynebiad China
Mae China heddiw wedi beirniadu cyfarfod Arlywydd yr Unol Daleithiau gyda’r arweinydd ysbrydol o Tibet, y Dalai Lama. Mae’n dweud ei bod yn weithred sy’n “ymyrryd ym materion cartref llywodraeth China” ac y gallai effeithio ar y berthynas rhwng China ac America yn y dyfodol.

Fe ddaeth y datganiad ymosodol gan Weinyddiaeth Dramor China ychydig oriau wedi i Barack Obama gyfarfod â’r Dalai Lama yn Washington.

Roedd China eisoes wedi galw ar yr Unol Daleithiau i ganslo’r cyfarfod, gan rybuddio y gallai niweidio’r berthynas rhwng eu dwy wlad.

Ond, wedi i’r cyfarfod ddigwydd yn y Ty Gwyn, fe ddaeth ail ddatganiad gan China, a hwnnw’n galetach ei eiriad. Hefyd, fe gofnododd Llysgenhadaeth China yn yr Unol Daleithiau, eu gwrthwynebiad a’u hanfodlonrwydd gyda chynrychiolwyr America yn Beijing ac yn Washington.