Golygfa o Jerwsalem
Mae heddlu wedi gorfod rhwystro Iddewon Orthodocs rhag cau un o brif strydoedd Jerwsalem mewn protest yn erbyn maes parcio newydd sy’n agor ar y Saboth.

Mae protestwyr pybyr wedi cynnal sawl protest ers i’r maes parcio agor am y tro cynta’ ddwy flynedd yn ôl. Maen nhw’n honni bod agor ar ddydd Sadwrn yn amharchu’r Saboth, y diwrnod sanctaidd y mae’r gred Iddewig yn ei nodi fel dydd o orffwys.

Ddoe, fe ddaeth protestwyr ynghyd ym mhrif gyffordd yr ardal gan sgrechian ar swyddogion yr heddlu a’u pledu gyda sachau dwr bychain. Fe lwyddodd yr heddlu i rwystro’r protestwyr rhag cau’r ffordd.

Mae un o bob tri o 700,000 o drigolion Jerwsalem yn Iddewon Orthodocs pybyr – sef dros 200,000 o bobol. Mae’r rhan fwya’ o ardaloedd Iddewig y ddinas yn cau i lawr yn llwyr ar y Saboth, sy’n para o fachlud nos Wener tan fachlud nos Sadwrn.