Mae yna bryder am sawl person ar ôl i ran o do stadiwm FC Twente yn yr Iseldiroedd chwalu, meddai’r heddlu.

Syrthiodd rhan o’r to tua hanner dydd, meddai llefarydd ar ran yr heddlu, Jan Lamberts, wrth asiantaeth newyddion yr Asoociated Press.

Ychwanegodd fod “pobol yn gaeth” ond nad oedd yn amlwg faint.

Dywedodd fod y gwasanaethau brys yn y stadiwm yn Enschede, oedd yn cael ei adfer cyn dechrau’r tymor nesaf ym mis Awst.