Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi rhybuddio cwmnïoedd awyrennau fod terfysgwyr yn ystyried troi at lawdriniaeth er mwyn mewnblannu bomiau y tu mewn i’w cyrff.

Mae’r rhybudd yn awgrymu na fydd sganwyr sy’n ‘dinoethi’ teithwyr yn ddigon yn y dyfodol ac y bydd angen edrych o dan y croen er mwyn sicrhau nad yw rhywun yn derfysgwr.

Anfonodd yr FBI memo at swyddogion diogelwch gan ddweud y gallai tacteg sy’n gyffredin ymysg troseddwyr gael ei fabwysiadu gan derfysgwyr.

Mae’r llythyr yn cyfeirio at achos yn 2005 pan gafodd dynion o Colombia eu cyhuddo o fewnblannu cyffuriau y tu mewn i gyrff rhedweision.

Dyw bomiau mewn cyrff ddim yn syniad newydd, ond mae’r gwasanaethau cudd wybodaeth yn awgrymu fod diddordeb newydd ymysg terfysgwyr.

Wrth i ddiogelwch mewn meysydd awyr gynnyddu mae’n nhw’n brysur yn meddwl am ddulliau newydd o ymosod ar awyrenau.

Dywedodd llefarydd ar ran gwasanaethau cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau nad oes yna unrhyw dystiolaeth benodol sy’n awgrymu fod ymosodiad o’r fath ar fin digwydd.

Ond roedd tystiolaeth a gipiwyd o guddfan Osama bin Laden ym mis Mai yn awgrymu bod arweinydd y mudiad terfysgol yn parhau i dargedu awyrennau.