Mohammed VI, brenin Morocco (Agencia Brasil CCA 2.5)Mae miloedd o brotestwyr ar draws Morocco’n galw am ragor o ddiwygiadau, ddeuddydd ar ôl i bleidleiswyr gymeradwyo cyfansoddiad newydd.

Yn ôl y brenin, fe fydd hwnnw’n cynnig mwy o hawliau i bobol y wlad ond mae’r protestwyr eisiau mynd ymhellach.

Dyma’r diweddara’ yn y gyfres o wrthdystiadau sydd wedi parhau yn y wlad ers 20 Chwefror ac wedi gorfodi’r Brenin Mohammed VI i ddiwygio cyfansoddiad  y wlad.

Gwrthod y refferendwm

“Rydan ni yma i wrthod y refferendwm a’r cyfansoddiad,” meddai Oussama Khlifi, un o sylfaenwyr y mudiad protest.

“Rydyn ni eisiau brenhiniaeth seneddol gyda brenin sy’n teyrnasu, ond sydd heb fod yn rheoli. Rydyn ni hefyd eisiau brwydro yn erbyn llygredd,” meddai.

Yn y wlad yng ngogledd Affrica y dechreuodd y mudiad protestio sydd wedi lledu trwy’r ardal a’r Dwyrain Canol.

Eisiau atebolrwydd

Ond, dyw protestwyr ddim yn galw am ddisodli’r brenin, sy’n parhau’n boblogaidd. Yn hytrach, maen nhw’n pwyso am atebolrwydd swyddogol a lleihau ei bwerau absoliwt.

Mae’r brenin, a ddaeth i rym yn 1999, yn dweud bod y cyfansoddiad newydd, a gafodd ei gymeradwyo gan 98% o’r protestwyr ddydd Gwener yn gwneud hynny.

Yn ôl y ffigurau swyddogol, roedd 70% o bobol y wlad wedi pleidleisio.