Enw: Siobhan Davies (Chev i’r criw agosaf)

Dyddiad geni: 17/08/1972 – roedd Alice Cooper ar y brig yn y siartiau efo ‘School’s Out’!

Man geni: Ysbyty Dewi Sant, Bangor


Fe groesodd ein llwybrau yn Uned Seiciatryddol Hergest, Bangor (feddyliais i erioed y byddwn i’n dechrau colofn gyda’r fath frawddeg!). Ond mae’r meddwl yn beth bregus. Roedd y ddwy ohonom yn bur wael ar y pryd, ac yn mynd drwy seicosis. Roedd Siobhan yn dioddef o sgitsoffrenia. Roedd hi’n credu ar y pryd fod y Llywodraeth wedi dwyn ei phlant go iawn oddi wrthi, ac wedi’u cyfnewid efo robotiaid. Ond doedd pethau ddim wastad wedi bod mor dywyll iddi.

Yn ferch fach, ei breuddwyd oedd bod yn filfeddyg a dilyn yn ôl llwybr ei mam (y nyrs milfeddygol cyntaf ar Ynys Môn). Ond gydag amser, fe bylodd y freuddwyd hon gyda’r sylweddoliad nad oedd ei sgiliau Gwyddoniaeth a Mathemateg yn ddigon cryf.

Er hyn, roedd ganddi ddawn barddoni naturiol ac fe ddaeth i’r brig mewn sawl cystadleuaeth genedlaethol rhwng 15-17 mlwydd oed, gan gynnwys cystadlaethau Cadbury’s, WHSmith, The Welsh Academy a chylchgrawn yr Observer.

“Er nad ydw i’n ennill cystadlaethau barddoni rhagor, mae ysgrifennu barddoniaeth dal yn rhoi cysur i mi,” meddai.

Yn fuan wedi hyn, daeth tro ar fyd. Yn dilyn cael ei cham-drin yn rhywiol, dechreuodd brofi anhwylderau iechyd meddwl. Canlyniad hyn oedd amrywiol gyfnodau di-baid mewn unedau seiciatryddol a chartrefi gofal.

“Ro’n i ar bob mathau o feddyginiaethau hyll, ac i mewn ac allan o unedau am o leiaf wyth mlynedd. Roedd yn gyfnod tywyll iawn i mi,” meddai.

Ac yn ystod y cyfnod olaf hwnnw yn uned seiciatryddol Hergest, Bangor groesodd ein llwybrau ni.

“Siaradodd Malan fyth air o Saesneg efo fi, yn wahanol i bobol eraill ar yr Uned. Rywsut, roedd ei gonestrwydd am y byd tu allan i’r uned (a’i hiwmor ffraeth) yn fy ngalluogi i weld ymhellach na’r ddedfryd oes ro’n i’n teimlo’r o’n i yn ei fyw ar y pryd o fewn y system gofal.”

Gyda hyn, daeth cyfle iddi symud i fflat a dechrau byw ei bywyd yn annibynnol.

Cysur anifeiliaid

“Ro’n i’n chwilio am enaid cytûn i rannu fy mywyd efo pan welais i fochdew bach bendigedig. Fe alwais i hi’n Mabli. Fe lwyddodd fy nghariad i tuag at Mabli fy achub sawl gwaith o lefydd tywyll,” meddai.

“Mi drodd Mabli allan i fod fy flatshare hamster cyntaf. Ond allwn i ddim ei chaethiwo mewn cawell, felly cafodd Mabli fyw yn gyfan gwbl rydd efo fi yn y fflat – yn ddi-gawell.”

Yn dilyn Mabli, daeth bochdew arall, Llywelyn – ac mi gafodd yntau hefyd yr un rhyddid ganddi. Ond ei breuddwyd oedd cael ci. Ac mi gafodd wireddu’r freuddwyd honno yn ddiweddar iawn.

“Yn ddiweddar, daeth Mallt Goch i’m bywyd! Nid bochdew y tro hwn, ond y ci defaid trilliw siocled, y ci defaid anwylaf fyw. Dw i wastad wedi caru cŵn, ac wedi cael ambell gi yn tyfu i fyny, ond mae hon heb ei hail. Does gen i ddim geiriau i’w disgrifio. Rydan ni’n eneidiau hoff cytûn.

“Fedra i ddim disgwyl i godi yn y bore, i fynd i’r traeth efo hi, i daflu pêl ac i’w gweld yn bownsio i mewn ac allan o’r tonnau. Mae’n rhyfeddol faint o bleser dw i’n gael o ofalu amdani a chyd-droedio’r byd yma efo’n gilydd.”

‘Mentro a thyfu’

Mae’n sôn bod ‘edrych yn ôl ar ei bywyd’ yn deimlad rhyfeddol.

“Chwe blynedd yn ôl, roedd gen i ormod o ofn hyd yn oed i ddal bws ar fy mhen fy hun. Ymhen mis, mi fydda i’n teithio i’r Ffindir i siarad mewn cynhadledd genedlaethol ynglŷn â seicosis, fy mhrofiadau iechyd meddwl, a hefyd profiadau dyn arbennig rwy’n ei edmygu yn fawr (fy nghyn-nyrs seiciatryddol, Andrew).

“Mae’n rhaid i mi gyfaddef fod arna i ychydig o ofn meddwl am y peth. Mi fydd yn brofiad hollol newydd. Ond bellach, dw i’n trio cofleidio profiadau newydd. Mentro. Tyfu fel unigolyn. Mae’r cyfleoedd sy’n dod fy ffordd mewn bywyd – am y gorau weithiau, er mod i’n teimlo’n nerfus amdanyn nhw ar y pryd.

“Fe ddywedodd doctoriaid wrtha i flynyddoedd yn ôl na fyddwn i fyth yn gweithio eto. Dw i’n gweithio fel pot wash mewn bwyty lleol bellach, ac fel housekeeper mewn gwesty ac yn talu fy nhrethi fel pawb arall.”

Tasai ganddi unrhyw bwerau hud, y gallu i “weld rownd corneli” fyddai hynny – neu i fedru “siarad pob iaith ar y blaned”.

“Y peth mwyaf sylfaenol sydd gennym fel pobol yw iaith. Mae’n dod â phobol at ei gilydd. Mae’n ein helpu i ddeall mwy am ein gilydd ac am ein profiad ar y ddaear hon. Iaith yn dawnsio yw barddoniaeth i mi. Cyfle i fynegi fy mhrofiad drwy ddull creadigol. O mor wych fyddai gallu siarad pob iaith!”