Portread o Lowri Jones

Gweld bwlch ar gyfer siop Gymraeg yn Lloegr wnaeth Lowri Roberts, ac mae’r busnes wedi mynd o nerth i nerth.

Gyda’i mam, Linda, fe sefydlodd Siop Cwlwm yng Nghroesoswallt, sydd bum milltir dros Glawdd Offa rhwng Wrecsam a’r Amwythig.

Bryd hynny roedd hi’n bosib prynu bob dim dan haul yn y dref, ond roedd rhaid teithio i’r Bala neu ymweld ag Eisteddfodau i ddod o hyd i nwyddau Cymraeg a Chymreig cyn sefydlu’r siop yn 2010.