Iain Duncan Smith (Llun y Ganolfan Gyfiawnder Cymdeithasol)
Mae Llafur wedi galw ar weinidogion i egluro pam eu bod nhw wedi cuddio rhybudd y gallai torri budd-daliadau wneud 40,000 o deuluoedd yn ddigartref.

Yn ôl un o adrannau’r Llywodraeth ei hun, fe fyddai hynny’n costio mwy na’r hyn fyddai’n cael ei arbed ac, yn ôl Llafur, mae “eisiau atebion” pam fod tystiolaeth wedi’i chuddio.

Maen nhw’n cyhuddo un o weinidogion amlyca’r Llywodraeth o ddadlau tros y polisi’n gyhoeddus gan ei wrthod yn breifat.

Y rhybudd

Fe ddaeth y rhybudd i’r Prif Weinidog ei hun o swyddfa’r Ysgrifennydd Cymunedau, Eric Pickles, ym mis Ionawr.

Ond, wrth fwrw ymlaen gyda’r cynlluniau, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, “nad oedd hi’n bosibl” mesur y gost i gynghorau o orfod ailgartrefu teuluoedd a fyddai’n colli’u cartrefi.

Yn ôl Llafur, roedd adran Iain Duncan Smith wedi cuddio gwybodaeth tra bod Eric Pickles yn dweud un peth yn gyhoeddus a pheth arall o fewn y Llywodraeth.

‘Hawl i wybod’

“Mae gan y cyhoedd a’r Senedd yr hawl i wybod pam dro ar ôl tro, mae ei adran wedi gwrthod y pryderon sydd wedi’u codi yn gyfrinachol gyda’r Prif Weinidog,” meddai’r llefarydd Llafur, Caroline Flint.

Er bod swyddfa Eric Pickles yn pwysleisio mai gwas sifil oedd wedi sgrifennu’r rhybudd, mae llythyrau o’r fath fel rheol yn mynegi pryderon y gweinidogion.