Enw: Marlon Van Der Mark

Dyddiad geni: 04/10/1997

Man geni: Swindon – byw yng Nghaerdydd


“Roedd dod allan yn gyhoeddus ar TikTok yn fy ngalluogi i gymryd rheolaeth dros naratif fy stori, ac mae’n atal pobol rhag lledaenu sibrydion neu siarad ar fy rhan…”

Mae stori Marlon Van Der Mark yn un o ddewrder eithriadol. Cafodd ddiagnosis positif o HIV yn 19 oed, a bu i’w fyd droi â’i ben i lawr. Daeth byw a bod o ddydd i ddydd yn un o’r heriau mwyaf un iddo.

“Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i mewn sefyllfa yn fy mywyd lle byddai’n rhaid i mi amddiffyn fy hun, i raddau, heblaw bod yn hoyw, ac roedd fel ail-fyw hynny i gyd eto os nad yn waeth. Roedd pobol bob amser yn eich gweld chi fel y salwch ei hun yn hytrach na’r person rydych chi.

“Y sylwadau gwaethaf dw i wedi’u derbyn oedd dweud bod angen i mi gael fy ysbaddu neu fy rhoi i gysgu… Mae angen i mi gael fy nghloi i fyny… Dydw i ddim yn haeddu’r rhyddid i gerdded y strydoedd.

“Dwi wedi cael bygythiadau marwolaeth…”

Er gwaethaf yr holl gasineb hwn, dywed Marlon ei fod yn sicr nad yw llawer “yn gwybod y gwir y tu ôl i HIV” a bod rhai pobol ond yn mynd oddi ar yr hyn ddywedwyd wrthyn nhw, neu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn y gorffennol. Mae’n credu bod y cyfryngau yn bennaf ar fai am hyn yn ogystal â’r stigma eang oedd yn bodoli ’nôl yn yr 80au.

Diagnosis

Doedd Marlon ddim yn bwriadu mynd i gael archwiliad i ddechrau. Cafodd ei ruthro i’r ysbyty gydag amheuaeth o sepsis, ac roedd yn ddifrifol wael. Cafodd ei gadw yn yr ysbyty am ryw bythefnos, lle roedd gweithwyr meddygol proffesiynol yn parhau i ofyn iddo a fyddai’n fodlon gwneud prawf HIV.

“Roeddwn i’n gwrthod bob tro. Roeddwn i’n gwybod yng nghefn fy meddwl ei fod yn bosibilrwydd, ond doeddwn i ddim yn barod i’w wynebu. Mae holl amser y diagnosis yn foment o ddryswch yn fy mywyd. Roedd fy emosiynau yn amrywio – un munud y byddwn i’n chwerthin ac yna byddwn i’n crio.”

Pan gafodd Marlon ei ddiagnosis, ei brif ofn oedd sut roedd yn mynd i oroesi yn feddygol, yn gorfforol ac yn feddyliol.

“Rydw i wedi goresgyn llawer o bethau yn fy mywyd, ond roedd hwn yn rywbeth nad oeddwn i’n gwybod at bwy y gallwn i droi. Doedd o ddim yn rywbeth roeddwn i’n barod i ddigwydd i mi. Erioed.”

Bob chwe mis, mae Marlon yn mynd am archwiliad corff llawn gyda phrawf gwaed, ac mae’n trafod sut mae’n teimlo a beth mae’n mynd drwyddo.

Torri’r tawelwch

Dywed Marlon fod “dod allan” yn gyhoeddus ar TikTok wedi caniatáu iddo gymryd rheolaeth dros “naratif” ei stori, ac yn “atal pobol rhag lledaenu sibrydion” neu siarad ar ei ran.

“Roeddwn i angen rhywfaint o reolaeth yn ôl yn fy mywyd, a dyna oedd fy unig ffordd… Dw i wedi cael llawer o gefnogaeth ac mae’n anhygoel gweld bod yna bobol allan yna sy’n poeni ac eisiau i chi lwyddo.”

Mae’n dweud mai’r peth anoddaf mae wedi’i oresgyn yn ei fywyd yw dod o hyd i’r angen i “ffitio i mewn” pan mai’r cyfan oedd angen iddo’i wneud, mewn gwirionedd, oedd “sefyll allan”.

“Roedd mor anodd, oherwydd roeddwn i eisiau cael fy hoffi gan bawb arall, ac roeddwn i eisiau cuddio fy hun ac fy ngwirionedd. Ond sefyll allan oedd y peth gorau i’w wneud yn y sefyllfa roeddwn i ynddi, a bod yn driw i’r gwir.”

Y cyngor y byddai’n ei roi i rywun sydd newydd gael diagnosis, neu sy’n cael diagnosis o HIV, yw “cofiwch bob amser nad ydych chi ar eich pen eich hun”.

“Fy mreuddwyd fyddai cael gwellhad ar gyfer HIV, ond nid yw’n rywbeth rwy’n eistedd mewn gobaith amdano, oherwydd gwn ein bod yn lwcus heddiw i gael y feddyginiaeth sydd ar gael, yn annhebyg i rai yn y gorffennol. Felly, fy mreuddwyd fyddai i bawb allu byw ymhlith ei gilydd a bod yn garedig… I bawb fyw’n rhydd a gallu siarad yn agored am eu diagnosis a bod yn nhw eu hunain.”