“Er fy mod i’n casáu Cymraeg yn yr ysgol, dw i wedi cwympo mewn cariad gyda’r iaith bellach…”

Wedi i’r nifer uchaf erioed o siaradwyr newydd gymryd rhan yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni, mae’r pedwar sydd wedi dod i’r brig wedi bod yn trafod eu llwyddiant.

Alanna Pennar-Macfarlane, Antwn Owen-Hicks, Joshua Morgan ac Elinor Staniforth sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, fydd yn cael ei chynnal ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd.

Bydd y pedwar, wnaeth guro 41 arall i gyrraedd y rownd derfynol, yn sgwrsio gyda’r beirniaid – Bethan Glyn, Cefin Campbell a Mark Morgan – yn y Brifwyl a’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar y dydd Mercher.

Elinor Staniforth

Wedi’i magu ar aelwyd ddi-Gymraeg yng Nghaerdydd, dechreuodd Elinor ddysgu Cymraeg tua phedair blynedd yn ôl. Bellach, mae hi’n diwtor Cymraeg i oedolion ac yn ysbrydoli eraill i ddilyn yr un llwybr â hi. Cyn hynny, bu’n astudio Celfyddyd Gain yn Rhydychen, ac mae hi’n awyddus i gyfuno ei diddordeb mewn dysgu Cymraeg a chelf yn y dyfodol.

“Mae cyrraedd y rownd derfynol yn deimlad sbesial iawn. Pan ddaeth yr e-bost trwyddo [yn datgelu fy mod yn y rownd derfynol] doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth,” meddai Elinor.

“Mae yna gymaint o ddysgwyr sy’n haeddu clod felly dw i’n teimlo’n lwcus iawn i gael fy newis a gweld fy enw drws nesaf i ddysgwyr eraill sydd mor dalentog.”

O Loegr ddaw rhieni Elinor, a doedd fawr ddim cysylltiad rhyngddi â Chymru – oni bai ei bod hi’n byw yma – nes iddi symud i Loegr i astudio.

“Roeddwn i’n dechrau colli Cymru yn fawr, yn sylweddoli pa mor sbesial yw hi ac yn hiraethu am fynd gartref.”

Ar ôl graddio yn 2019, dychwelodd i Gaerdydd a thrio dod o hyd i swydd yn y celfyddydau.

“Roedd y rhan fwyaf o fy ffrindiau wedi gadael y ddinas erbyn hynny felly roeddwn i’n chwilio am ffordd o gwrdd â mwy o bobl a helpu i gael swydd newydd – dw i’n lwcus nawr i ddweud fy mod i wedi ffeindio’r ddau drwy ddysgu’r iaith.

“Er fy mod i’n casáu Cymraeg yn yr ysgol, dw i wedi cwympo mewn cariad gyda’r iaith bellach – fyddai Eli ifanc ddim yn deall beth sydd wedi digwydd!”

Y Gymraeg sydd wedi dod ag Elinor at ei phartner hefyd, ac mae’r ddau’n siarad Cymraeg gyda’i gilydd yn naturiol. Drwy ddysgu’r iaith, mae Elinor wedi darganfod “byd cyfan newydd” o lenyddiaeth, cerddoriaeth a hanes Cymru.

“Mae dysgu Cymraeg wedi fy helpu i weld byd enfawr oedd yn eistedd yn syth o fy mlaen i.

“Mae dysgu Cymraeg hefyd wedi helpu fi i ddod lot fwy hyderus a phoeni llai. Mae rhaid i chi wneud lot o gamgymeriadau a chwerthin ar ben dy hun i lwyddo i ddysgu iaith. Felly nawr, beth bynnag dw i’n wneud, mae llai o ots gyda fi os ydw i’n swnio’n dwp, dw i’n gallu joio’r foment.”

Er mawr syndod i Elinor, mae un o’i ffrindiau, Alanna, wedi cyrraedd y rhestr fer hefyd, a chwardda bod y ddwy wedi llwyddo i gadw’r gyfrinach yn dda iawn.

Alanna Pennar-Macfarlane

Daw Alanna o’r Alban ac mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac wedi bod yn dilyn un wers Gymraeg, o leiaf, bob dydd ar Duolingo ers bron i chwe blynedd. Mae ei thaith i ddysgu’r iaith wedi ysbrydoli’i theulu hefyd, ac mae ei chwaer-yng-nghyfraith a’i mam yn dysgu nawr.

Dechreuodd ar ei siwrne gan mai Cymraeg yw mamiaith ei gŵr a’i deulu, a doedd hi ddim yn teimlo’n iawn bod rhaid i bawb droi i’r Saesneg wrth siarad â hi. Ychwanega’r Albanes ei bod hi’n “rhy fusneslyd” i beidio deall beth oedd yn cael ei ddweud yn Gymraeg.

“Mae hi mor gyffrous i gyrraedd y brig gyda phobol mor dalentog ac ysbrydoledig. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad mor enwog, a dw i’n teimlo’n falch o gael y cyfle i fynd a bod yn rhan ohono fe,” meddai Alanna.

“Dw i wedi mwynhau dysgu Cymraeg a doeddwn i ddim yn disgwyl hynny – doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn i ddysgu iaith arall. Gwnes i drio dysgu Ffrangeg ac Almaeneg yn yr ysgol, ond dw i erioed wedi teimlo’n hyderus mewn iaith arall o’r blaen.

“Mae gen i dyslecsia felly dw i’n dysgu pethau, yn enwedig ieithoedd, mewn ffordd wahanol ac yn arafach. Mae’r Gymraeg yn wych ac yn lot haws i ddysgu, yn fy marn i, achos mae’n ffonetig a dw i’n teimlo fel ei bod hi’n llifo’n well na Saesneg.

“Wrth gwrs mae yna bethau cymhleth, ond dw i wir yn hoffi sut mae’r iaith yn gweithio.”

Y peth gorau am ei siwrne fu dysgu am ddiwylliant Cymru, meddai, gan ychwanegu ei bod hi wedi mwynhau dod i adnabod ei gŵr yn well hefyd, gan fod ei gymeriad ychydig yn wahanol yn Gymraeg.

“Mae fe’n fwy relaxed, cyfforddus a hyderus yn ei iaith gyntaf, a faswn i erioed wedi gweld yr ochr yna ohono fe heb ddysgu ei iaith.”

Ers dod yn rhugl, mae Alanna wedi sefydlu busnes, Pennar Bapur, sy’n gwerthu adnoddau dysgu Cymraeg, gan gynnwys dyddiaduron i ddysgwyr.

Ond nid dyma ei bara menyn beunyddiol.

“Yn fy mhrif swydd fel cerddor llawrydd, dw i hefyd yn dod ar draws Cymry Cymraeg pan dw i’n gweithio,” eglura.

“Mae’r Cymry’n bobol gerddorol iawn felly dwi bron wastad yn cwrdd â rhywun sy’n gallu siarad Cymraeg pan dw i’n mynd mewn i gerddorfeydd ledled gwledydd Prydain.

“Dw i wedi cwrdd â nhw yn yr Alban, de Lloegr, a hyd yn oed ar daith i India yn ddiweddar!”

Antwn Owen-Hicks

Hen fam-gu Antwn oedd yr olaf i siarad Cymraeg yn ei deulu, ac ar ôl cael ei fagu heb yr iaith penderfynodd ddysgu ar ôl gadael y coleg yn Llundain. Bellach, Cymraeg yw iaith y cartref ym mhentref Sirhywi ger Tredegar, a’i ferch, Seren, yw’r cyntaf o’r teulu i gael ei magu yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf ers pedair cenhedlaeth.

Yn un o sylfaenwyr y band gwerin Carreg Lafar, bu Antwn yn defnyddio’r Gymraeg yn ei waith bob dydd gyda Chyngor Celfyddydau Cymru hefyd. Gadawodd y swydd honno eleni ar ôl 26 mlynedd, ac mae’n gweithio gyda’r corff gwerin Trac Cymru ar brosiect cymunedol yn Rhondda Cynon Taf ar y funud, ac yn trefnu cyngherddau gyda Menter Iaith Merthyr Tudful.

“Tra o’n i’n dysgu, wnaethon ni ddechrau perfformio a recordio gyda’r band Carreg Lafar,” meddai Antwn, gan ddweud ei bod hi’n “hyfryd” cael llwyddiant yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

“Mae dysgu’r iaith wedi agor llawer o ddrysau i fi, trwy’r band – teithio dramor, perfformio mewn gwyliau ac ar y teledu.

“Un o’r gwyliau oedd Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient, ac yn 2008, ces i’r cyfle i weithio gyda’r ŵyl, fel arweinydd dirprwyaeth Cymru, i gefnogi a hyrwyddo artistiaid o Gymru yn Lorient bob blwyddyn, a dw i dal yn gwneud hynny nawr.”

Cyn troi at y Gymraeg yn oedolyn, doedd ganddo ddim profiad o ddysgu’r iaith ac mae’n cyfaddef na fu’r siwrne’n hawdd o gwbl.

“Roeddwn i’n gyfarwydd gyda’r ffordd i ynganu’r geiriau, ond doedd dim profiad o ddysgu’r iaith cyn gwneud y cwrs, doedd hi ddim yn angenrheidiol yn yr ysgol ar y pryd.

“Ond, wnes i ddyfalbarhau. A’r peth gorau oedd siarad, jyst i drio defnyddio’r geiriau sydd gyda fi, ac i ymarfer gyda phobol eraill.

“Dyna’r unig ffordd, dw i’n credu, i symud o ddysgu mewn dosbarth i ddysgu yn y gymuned.

“Roeddwn i’n ffodus iawn i gwrdd â Linda, fy ngwraig, sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, felly ces i’r cyfle i ymarfer a gofyn cwestiynau iddi hi.”

Joshua Morgan

Dim ond ers blwyddyn a hanner mae Joshua Morgan yn dysgu Cymraeg. Mae’r athro, sy’n byw yng Nghaerdydd ac yn dysgu ym Merthyr Tudful, yn creu darluniadau o’i daith yn dysgu Cymraeg ac mae dros 10,000 o ddysgwyr yn defnyddio lluniau a gwersi ‘Sketchy Welsh’ ar-lein.

“Mae’n eithaf rhyfedd hefyd achos am amser hir do’n i ddim yn meddwl bod e’n bosibl i fi i ddysgu Cymraeg, ond mae’n rhan fawr o fy mywyd nawr,” meddai Josh.

“Hefyd, mewn ffordd arall, mae’r teimlad yn gyfarwydd achos ers dw i wedi dechrau fy ymgyrch i ‘ddarlunio’r iaith Gymraeg’ trwy Sketchy Welsh, dw i wedi derbyn cymaint o gefnogaeth a charedigrwydd gan y gymuned dysgu Cymraeg.”

Cafodd Josh ei eni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond symudodd i Loegr yn blentyn, a gan nad oedd neb yn y teulu’n siarad Cymraeg, ni chafodd y cyfle i’w dysgu bryd hynny. Ar ôl astudio yng Nghaerdydd a chyfarfod siaradwyr Cymraeg, treuliodd gyfnod yn byw yn Ne Affrica, lle bu’n dysgu’r iaith isiXhosa. Yno, fe gafodd agoriad llygad.

“[Yn Ne Affrica] fe wnes i ddarganfod bod yr iaith yn rhan hanfodol o brofi’r diwylliant.

“Dw i wedi cael llawer o brofiadau na fyddwn i wedi’u profi heb yr iaith. Bellach, dw i wedi cael yr un profiad gyda Chymraeg.

“Y peth dw i’n gwerthfawrogi mwyaf yw bod yn gallu gweld y byd drwy bersbectif Cymraeg.

“Mae’n gyffrous bod pob gair yn dod â syniad a phersbectif gwahanol. Er enghraifft, pan dw i’n gweld rhaeadr, dw i ddim yn jyst meddwl ‘waterfall’, ond y geiriau ‘rhaeadr, pistyll, sgwd’ sy’n dod ag ystyr, teimlad a dealltwriaeth wahanol.”

Ychwanega ei fod yn mwynhau ymgysylltu â’r iaith drwy ei ddarluniadau a’i waith celf, sy’n cynnwys llyfr o’r enw 31 Ways To Hoffi Coffi. Yn ddiweddar, mae Josh wedi dechrau sgrifennu caneuon Cymraeg hefyd.

“Dw i wedi bod yn lwcus i gwrdd â rhai o fy hoff gerddorion, fel Gentle Good, Gwilym Bowen Rhys, Cerys Hafana a Mari Mathias. Chwaraeais gig gyda Mari Mathias hefyd, mewn digwyddiad o’r enw ‘Gorsedd’. Roedd hi’n noson wych.”

Erbyn hyn, mae plant Josh yn dysgu Cymraeg, ynghyd â’i wraig, sy’n dod o Loegr.

“Doedd neb yn fy nheulu yn siarad Cymraeg, ond mae fy mrawd, fy nhad a fy nithoedd i gyd yn dechrau dysgu nawr hefyd!”