Mae creu Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn freuddwyd i grefftwyr ledled Cymru, ac yn 23 oed mae’r dylunydd eleni wedi gwireddu’r nod yn gynnar iawn yn ei gyrfa.

Elan Rhys Rowlands sydd wedi cyd-greu Coron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf gyda Neil Rayment, gweithiwr aur sy’n rhedeg siop gemwaith ym Mae Caerdydd.

Y llynedd daeth Elan yn brentis gyda chwmni Neil Rayment Goldsmiths a dylunio’r Goron oedd ei thasg gyntaf.