Mae militariaeth yng Nghymru ar feddyliau pobol wrth i’r etholiad cyffredinol agosáu, yn ôl cydlynydd rhwydwaith heddwch.
Er mwyn casglu barn ymgeiswyr, mae Heddwch ar Waith wedi anfon holiadur ar filitariaeth at bob ymgeisydd yng Nghymru.
Hyd yn hyn, ymgeiswyr y Blaid Werdd a’r Workers Party of Britain sydd fwyaf cefnogol i’w galwadau, medd Sam Bannon, cydlynydd Heddwch ar Waith.
Mae Ben Lake, ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Ceredigion Preseli, wedi ateb yn gadarnhaol i’r saith pwynt maen nhw’n eu codi hefyd.
Mae Heddwch ar Waith am weld:
- penodi Llysgennad Heddwch ym mhob Awdurdod Lleol
- adolygiad o faint o dir Cymru sy’n eiddo’r fyddin
- mwy o atebolrwydd gan gwmnïau militaraidd am eu hallyriadau carbon
“Mae hi’n dda cael safbwynt yr ymgeiswyr sy’n debygol o gael eu hethol neu eu hailethol; fedrwn ni eu dal nhw i gyfrif os ydyn nhw’n addo edrych ar filitariaeth yng Nghymru,” meddai Sam Bannon wrth golwg360.
“Mae’r Blaid Werdd a’r Workers Party GB wedi bod yn gadarnhaol.
“Mae militariaeth yng Nghymru yn rhan o ymwybod y cyhoedd ar y funud, oherwydd yr hil-laddiad yn Gaza; rydyn ni i gyd yn rhan o hwnnw, nid yn unig gydag arfau’n cael eu gwerthu i Israel ond drwy gael cysylltiadau uniongyrchol â chwmnïau Israelaidd sy’n hyfforddi a chynhyrchu arfau yng Nghymru.
“Yn enwedig gyda’r Workers Party GB, eu prif fater nhw ydy Gaza, felly maen nhw’n gefnogol iawn.
“Y Blaid Werdd a’r Workers Party GB sydd wedi cyd-fynd fwyaf â’n neges ni, ond rydyn ni dal i dderbyn ymatebion yn gyson.
“Rydyn ni wedi clywed yn ôl gan dîm Ben Lake, sy’n gefnogol iawn.
“Mae’r saith pwynt yn cyffwrdd ar bethau eithaf gwahanol, ac mae e’n gefnogol i un o’n prif bwyntiau o gael llysgenhadon heddwch ym mhob awdurdod lleol.
“Ar y funud, ym mhob awdurdod lleol mae rôl o’r enw Pencampwr Militariaeth.
“Rydyn ni’n meddwl ei bod hi’n rôl dda; eu prif gyfrifoldeb yw edrych ar ôl cyn-filwyr.
“Ond rydyn ni hefyd yn meddwl y dylid cael rhywbeth i weithio ochr yn ochr â hynny sy’n rhoi heddwch ar yr agenda, ac adeiladu heddwch.
“Dydyn ni ddim yn meddwl bod digon yn cael ei wneud ar greu heddwch gyda phobol ifanc, yn enwedig gan fod y fyddin yn mynd mewn i ysgolion.”
Mae Heddwch ar Waith hefyd yn poeni am nifer ymweliadau’r fyddin ag ysgolion.
“Mae 74% o ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru yn cael pedwar ymweliad y flwyddyn gan y fyddin, a dydyn ni ddim yn meddwl bod hynny’n foesol iawn,” meddai Sam Bannon.
Addewidion y pleidiau
Pwysleisia Sam Bannon eu bod nhw’n dal i aros am ymatebion gan y prif bleidiau, ond dyma sydd gan y gwahanol bleidiau i’w ddweud am filitariaeth a heddwch yn eu maniffestos…
Y Democratiaid Rhyddfrydol
- Deddfu i sicrhau bod y Senedd yn pleidleisio cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau milwrol, a chefnogi ymyriadau pan fo achos cyfreithiol a dyngarol glir
- Cynyddu gwariant amddiffyn bob blwyddyn, gyda’r nod o wario o leiaf 2.5% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) ar amddiffyn
- Stopio toriadau i’r fyddin, gyda’r nod o gynyddu nifer y milwyr i 100,000.
- Cynnal yr arfau niwclear gyda phedair llong danfor
Y Blaid Werdd
- Cael gwared ar Trident, ond aros yn Nato
- Stopio gwerthu arfau i Israel
- Cadoediad ar unwaith yn Gaza
Refom UK
- Addo recriwtio 30,000 o aelodau i’r fyddin, a chael 100,000 o filwyr i gyd
- Cynyddu gwariant amddiffyn i 2.5% o’r GDP mewn tair blynedd, ac yna i 3% mewn chwe blynedd
- Cyflwyno cymhellion ac egwylion treth i hybu diwydiant amddiffyn gwledydd Prydain
- Cynyddu tâl sylfaenol y lluoedd arfog
Llafur
- Ymrwymiad i gadw arfau niwclear Trident, ac ymrwymo i aros yn rhan o Nato
- Lansio Adolygiad Strategaeth Amddiffyn i asesu’r heriau sy’n wynebu’r wlad. Cryfhau’r gefnogaeth i’r Lluoedd Arfog drwy greu Comisiynydd y Lluoedd Arfog
- Cael Pencadlys Milwrol Strategol
Plaid Cymru
- Gwrthwynebu adnewyddu Trident
- Gwrthwynebu’r cynnydd mewn gwariant ar amddiffyn
- Galw am gadoediad heddychlon yn Gaza
Y Ceidwadwyr
- Cyflwyno Gwasanaeth Cenedlaethol gorfodol i bobol ifanc 18 oed, drwy ddewis rhwng lleoliad gwaith yn y fyddin neu wirfoddoli yn y gwasanaeth dinesig ochr yn ochr â’u gwaith neu addysg
- Cynyddu gwariant am amddiffyn i 2.5% o’r GDP erbyn 2030
- Parhau i gefnogi Trident